Cynnydd – Cynnwys Cam 3
Mae gen i gymhelliant a hyder pan rydw i’n egnïol yn gorfforol ac rydw i’n
- mwynhau beth rydw i’n ei wneud;
- canolbwyntio wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau, ac mae’n anodd tarfu arna i;
- mwynhau heriau a datrys problemau drwy weithgareddau ar fy mhen fy hun ac fel rhan o dîm;
- cadarn ac yn dyfalbarhau nes mod i’n gwneud cynnydd ac yn sicrhau llwyddiant personol
- teimlo’n dda amdanaf fy hun gydag iaith corff positif;
- cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau corfforol yn ddyddiol yn fy nghymuned.

Rydw i’n gallu
- defnyddio, addasu a rhoi fy nysgu ar waith mewn amrywiaeth eang o heriau cynyddol gymhleth ac mewn cyd-destunau cyfarwydd, anghyfarwydd a chyfnewidiol;
- ysgwyddo mwy a mwy o gyfrifoldeb am fy ngweithredoedd, ac ystyried yr effaith ar eraill;
- defnyddio ystod o dechnolegau digidol yn greadigol i wella fy mherfformiad a’m lles;
- disgrifio sut mae gweithgarwch corfforol yn effeithio ar fy nghorff a’m meddwl a pham mae’n llesol i mi;
- defnyddio geirfa syml, berthnasol i ddweud sut mae gwella fy mherfformiad a pherfformiad eraill;
- arwain ac arddangos rôl arall mewn grwpiau a thimau bychain;
- esbonio sut mae gweithgarwch corfforol, maeth, gorffwys ac adferiad priodol yn effeithio ar iechyd a lles;
- pennu targedau personol perthnasol;
- dangos amrywiaeth o swyddogaethau arwain mewn grwpiau a thimau mwy, yn gystadleuol ac yn gydweithredol.

Rydw i’n gallu
- defnyddio, addasu a rhoi fy sgiliau ar waith mewn cyd-destunau cyfarwydd, anghyfarwydd a chyfnewidiol, ar dir ac mewn dŵr, gydag ymwybyddiaeth gynyddol o ddiogelwch;
- chwarae’n gydweithredol ac yn sensitif gyda phlant eraill;
- darllen, rhagweld ac ymateb i’r amgylchedd mewn rhai sefyllfaoedd;
- perfformio sgiliau mwy cymhleth gyda thensiwn corff gan wella cydbwysedd a chydsymudiad;
- cysylltu sgiliau’n fwy effeithiol o hyd i greu cyfresi hirach o weithredoedd;
- defnyddio sgiliau i ymateb yn ddychmygus i ysgogiadau creadigol a gwahanol sefyllfaoedd;
- nofio 25 metr mewn dillad (siorts a chrys-t), wedyn nofio yn yr unfan am 30 eiliad a dangos gweithred i gael help a symud i’r Ystum Lleihau Colli Gwres (H.E.L.P);
- dangos achub effeithiol drwy daflu, gan ddefnyddio rhaff i dynnu partner / person angen cymorth o bellter o 5 metr o leiaf i ochr y pwll;
- cylchdroi i arnofio ar y bol (o fod yn arnofio ar y cefn) ac wedyn dychwelyd i arnofio ar y cefn mewn un symudiad, cwblhau cylchdro 360°, naill ai ar ffurf rholio boncyff neu rolio llorweddol;
- beicio’n ddiogel mewn gofod a rennir gydag amrywiaeth o ddefnyddwyr, gan gynnal cydbwysedd a rheolaeth, ac ymateb yn briodol i beryglon a chiwiau, gan gynnwys stopio mewn argyfwng;
- cynllunio llwybrau beicio gydag ymwybyddiaeth o ddiogelwch.

Sgiliau
- Llamu
- Carlamu
- Sgipio
- Rhagwthio
- Ochrgamu
- Taflu â Dwy Law
- Bownssiio Pêl
- Taflu dros Ysgwydd
- Driblo â’r Traed
- Driblo â’r Dwylo
- Trapio â’r Traed
- Taro Gwrthrych â’r Dwylo neu Fat
- Camu i’r Ochr
- Cam Croesi
- Traed Chwim
- Siâp Twc
- Dal y Llygoden
- Siâp Dysgl
- Siâp Bwa
- Ymgynnal Blaen
- Ymgynnal Ôl
- Ystum Parod i Fynd
- Pifodi
- Adweithio’n Gyflym
- Reidio Beic
- Symud i mewn i Wagle i Dderbyn Gwrthrych
- Taro Gwrthrych a’r Dwylo neu Fat