Cynnydd – Cynnwys Cam 2
Mae gen i gymhelliant a hyder pan rydw i’n egnïol yn gorfforol ac rydw i’n
- mwynhau beth rydw i’n ei wneud;
- canolbwyntio wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau, ac mae’n anodd tarfu arna i;
- mwynhau heriau a datrys problemau drwy weithgareddau ar fy mhen fy hun ac fel rhan o grŵp;
- cadarn ac yn dyfalbarhau nes mod i’n gwneud cynnydd ac yn sicrhau llwyddiant personol
- teimlo’n dda amdanaf fy hun gydag iaith corff positif;
- cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau corfforol yn ddyddiol yn fy nghymuned.

Rydw i’n gallu
- defnyddio, addasu a rhoi fy nysgu ar waith mewn amrywiaeth eang o heriau cynyddol gymhleth ac mewn cyd-destunau cyfarwydd, anghyfarwydd a chyfnewidiol;
- ysgwyddo mwy a mwy o gyfrifoldeb am fy ngweithredoedd, ac ystyried yr effaith ar eraill;
- defnyddio ystod o dechnolegau digidol yn greadigol er mwyn gwella fy mherfformiad a’m lles;
- defnyddio geiriau perthnasol i ddisgrifio:
- sut mae fy nghorff yn newid yn ystod gwahanol fathau o weithgarwch corfforol;
- fy nheimladau, fy meddyliau a fy marn;
- fy ngweithredoedd a dweud beth sy’n dda a beth ellir ei wella yn fy mherfformiad i;
- ysgwyddo mwy a mwy o gyfrifoldeb am estyn offer / cyfarpar.

Rydw i’n gallu
- defnyddio, addasu a rhoi fy sgiliau ar waith mewn cyd-destunau cyfarwydd, anghyfarwydd a chyfnewidiol, ar dir ac mewn dŵr, gydag ymwybyddiaeth gynyddol o ddiogelwch;
- chwarae ochr yn ochr â phlant a rhannu neu gymryd tro gyda chefnogaeth oedolyn;
- perfformio amrywiaeth eang o sgiliau yn ddiogel gyda rheolaeth;
- cysylltu sgiliau a chreu cyfresi syml o weithredoedd;
- dangos chwilfrydedd wrth archwilio a chwarae mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd.
